Calon Lân

Nid wy'n gofyn bywyd moethus

Aur y byd na'i berlau man

Gofyn wyf am galon hapus

Calon onest, calon lân


Calon lân yn llawn daioni

Tecach yw na'r lili dlos

Dim ond calon lân all ganu

Canu'r dydd a chanu'r nos


Calon lân yn llawn daioni

Tecach yw na'r lili dlos

Dim ond calon lân all ganu

Canu'r dydd a chanu'r nos